Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 1035 for "Meurig ap Hywel"

1 - 12 of 1035 for "Meurig ap Hywel"

  • ADDA FRAS (1240? - 1320?), bardd a brudiwr o fri Yn ôl Dr. John Davies a Thomas Stephens, blodeuai tua 1240. Cyfeirir ato yn Peniarth MS 94 (26), a Llanstephan MS. 119 (82) fel gwr yn byw tua 1038, ac yn cydoesi â Goronwy Ddu o Fôn. Ond yn G. P. Jones, Anglesey Court Rolls, 1346, tt. 37 a 39, ceir sôn am 'the son of Adda Fras', a 'the suit of Goronwy Ddu, attorney for the community of the Township of Porthgir.' Yn Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr
  • AFAN (fl. gynnar yn y 6ed ganrif), nawdd-sant Fe'i disgrifir fel mab Cedig ap Ceredig ap Cunedda Wledig ac fe'i cysylltir, o dan yr enw ' Afan Buellt,' â chantref Buellt yng nghanolbarth Cymru. Yma ceir dwy o'i eglwysi, sef Llanafan Fawr a Llanafan Fach; ceir y drydedd Llanafan yn nyffryn Ystwyth. Ceir arysgrif yn perthyn tua'r flwyddyn 1300 yn Llanafan Fawr yn darllen fel hyn: 'Hic iacet sanctus Avanus Episcopus.' Barnwyd oddi wrth hon ei
  • ALEN, RHISIART ap RHISIART, awdur 'Carol ymddiddan ag un marw ynghylch Purdan'
  • ALIS ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c. 1520), prydyddes Merch i ŵr bonheddig o brydydd, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c. 1485 - 1553) o'r Llanerch yn Llewenni Fechan. Ei mam ydoedd ei wraig gyntaf, Sioned ferch Rhisiart ab Hywel, Mostyn (bu farw 1540). Ganwyd Alis (neu Alis Wen) tua 1520, a phriododd Ddafydd Llwyd ap Rhys o'r Faenol ac o deulu Llwydiaid Wigfair, tua 1540. Plant iddi oedd John Llwyd (bu farw 1615), cofrestrydd esgobaeth
  • ANARAWD ap GRUFFYDD (bu farw 1143), tywysog Mab hynaf Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr; pan fu farw ei dad yn 1137 fe'i dilynodd fel arweinydd gwŷr Deheubarth. Eisoes, er ieuenged oedd, yr oedd wedi dangos peth ysbryd annibynnol yn y flwyddyn honno; dengys cronicl Tyddewi iddo, heb ganiatâd ei dad, ladd 'Letard frenin bach' - gormeswr o'r cylch a oedd o'i gartref yn Nhreletert yn gormesu ar glerigwyr a thrigolion morynys Pebidiawg. Yn 1138
  • ANARAWD ap RHODRI (bu farw 916), tywysog
  • ANEIRIN, bardd o fri yn hanner olaf y 6ed ganrif. 'Englynion y Misoedd' a honnir ddarfod eu canu ganddo. Nid yw eu hieithwedd o blaid hynny. Yn y Trioedd rhestrir lladd Aneirin gan ' Heiddyn' ('Heiden,' 'Eidyn') ap Enygan (Euengat) yn un o'r Tair Anfad Gyflafan, ac yn un o'r Tair Anfad Fwyallawd. Gelwir ef Aneirin Gwawdrydd, Mechdeyrn Beirdd, h.y. eu pen brenin, cf. Taliesin Ben Beirdd. Addurn oes arall yw hynny.
  • ANGHARAD (bu farw 1162) Gwraig Gruffydd ap Cynan, a merch Owain ab Edwin, un o benaethiaid dwyrain Gwynedd. Priododd Gruffydd tua'r flwyddyn 1095, yn gynnar yn ei ymdrech am allu; goroesodd Angharad ei gŵr flynyddoedd lawer, gan farw yn 1162. Dyma eu plant: Cadwallon (bu farw 1132), Owain (Gwynedd), Cadwaladr, a phum merch, sef Gwenllian, Marared, Rainillt, Susanna, ac Annest. Priododd Gwenllian Gruffydd ap Rhys a daeth
  • ANGHARAD, ferch MORGAN ap MEREDUDD (1293 or 1299) - gweler IFOR HAEL
  • ANIAN (bu farw 1306?), esgob Bangor Olynydd Richard (bu farw 1267). Cawsai y cabidwl ganiatâd i ethol ar 8 Tachwedd 1267; ar 12 Rhagfyr cadarnhaodd y brenin ddewisiad Anian, archddiacon Môn, ac fe'i cysegrwyd ef yng Nghaergaint cyn diwedd y flwyddyn. Yr oedd cymod Trefaldwyn yr Hydref cynt wedi peri mai Llywelyn ap Gruffydd oedd y gwr pwysicaf mewn cylchoedd Cymreig, ac am rai blynyddoedd bu Anian ac yntau mewn cytgord clos. Bu'n
  • ANIAN (bu farw 1266), esgob Llanelwy Gwnaethpwyd ef yn esgob ar ôl marw Hywel ab Ednyfed yn 1247. Yr oedd y Berfeddwlad ar y pryd o dan ofal Lloegr, a chydnabu Einion ac Anian a'r cabidwl ar 15 Medi 1249 hawl y brenin i awdurdodi dewis esgob a chadarnhau'r dewisiad, yn gymwys fel pe bai'n esgobaeth yn Lloegr. Erbyn y 27ain o'r mis yr oedd yr esgob dewisedig wedi talu gwrogaeth i'r brenin ac, ar ei orchymyn, wedi derbyn iddo'i hun
  • ANIAN (bu farw 1293), esgob Llanelwy yr amser y bu'n esgob. Pan ddyrchafwyd ef yn esgob yr oedd yr esgobaeth, oblegid cyfamod Trefaldwyn, yn gwbl o dan reolaeth Llywelyn ap Gruffydd. Ar y cyntaf yr oedd y tywysog a'r esgob ar delerau da. Ar 1 Mai 1269 cytunasant â'i gilydd yn yr Wyddgrug ar fater cynnal hen hawliau'r esgobaeth yn y Berfeddwlad. Yr oedd Anian yn cymryd rhan yn y cytundeb rhwng Llywelyn a David y daethpwyd iddo yn yr un